Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cael cwmni gwasanaethau  ariannol i ad-dalu grant o £700,000 ar ôl iddyn nhw adael Caerffili blwyddyn ar ôl sefydlu’r cwmni.

Roedd Guardian Wealth Management wedi cau eu swyddfa yng Nghaerffili ym mis Mehefin y llynedd, gan roi’r bai ar ddiffyg yn y galw am eu gwasanaethau.

Ond mae llefarydd ar yr economi y Ceidwadwyr yng Nghymru, William Graham AC, wedi cwestiynu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu cwmni gwasanaethau ariannol “bach” ac wedi galw am sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu.

Dywedodd: “Fe fydd trethdalwyr yn gofyn a yw buddsoddiad Llywodraeth Lafur Cymru mewn prosiectau o’r fath yn cynrychioli gwerth am arian.

“Yn anffodus mae enghreifftiau lu yn y gorffennol o grantiau sylweddol yn cael eu rhoi i gwmnïau sydd heb fod yn llwyddiannus wrth greu swyddi newydd – a rhai sydd wedi mynd i’r wal ar ôl cael cefnogaeth sylweddol.

“Mae’n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gallu cael yr arian yma yn ôl.

“Serch hynny mae angen ystyriaeth ehangach i’w polisi ynglŷn â pha brosiectau i’w cynorthwyo.”