Mae tri dyn wedi bod gerbron
Llys Ynadon Caerdydd
 y bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dyn 35 oed yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Bu farw Russell Peachey o’i anafiadau yn dilyn ymosodiad arno yn Stryd y Gogledd, Caerdydd yn oriau man fore Sadwrn, 1 Awst.

Fe fydd Dean Anthony Beasley, 37, o’r Barri; Shaminder Singh, 40, o Gaerdydd, a Christopher James Smith, 34, o Gaerdydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddarach.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd y Gogledd, Caerdydd am 4.15yb fore Sadwrn ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn anymwybodol. Cafodd Russell Peachey ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Neithiwr fe fu teulu a ffrindiau Russell Peachey yn gosod blodau a chanhwyllau ar y safle lle cafwyd hyd i’w gorff.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd  Mark O’Shea: “Rydym yn deall bod y gymuned leol wedi’u synnu gan y digwyddiad yma. Hoffwn sicrhau trigolion Grangetown na fyddwn yn goddef y math yma o ymddygiad treisgar yn ein cymuned ac yn ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau o’r fath.

“Os oeddech chi wedi gweld yr ymosodiad fe fyddwn yn eich annog i gysylltu â ni yn syth oherwydd fe allech fod a gwybodaeth bwysig a all ein helpu gyda’n hymchwiliad.”

Ychwanegodd eu bod hefyd yn awyddus i siarad â James Mark Williams ynglŷn â’r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy’n gwybod ble allai fod.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar  0800 555 111.