Byddai cynnal sesiynau yn dangos i siaradwyr Cymraeg sut i ymdrin â dysgwyr yn hwb mawr i’r rheiny sydd yn ceisio dysgu’r iaith.

Dyna farn cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, sydd yn gobeithio lansio cynllun peilot i wneud union hynny.

Yn ôl Ifor Gruffydd mae dysgwyr yn gallu’i chael hi’n anodd cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd yn bennaf yn cynnwys siaradwyr rhugl.

Y gobaith yw y gallai cynllun peilot gwerth £50,000 alluogi cynnal sesiynau fyddai’n dangos i glybiau a chymdeithasau Cymraeg sut i fod yn fwy croesawgar i ddysgwyr.

Clybiau a chymdeithasau

Yn ôl Ifor Gruffydd mae’r Ganolfan eisoes wedi ceisio am grantiau gwerth £50,000 i gynnal cynllun prosiect ar Ynys Môn, ond heb fod yn llwyddiannus.

Maen nhw dal yn gobeithio profi’r cynllun mewn rhyw fodd, fodd bynnag, ac yn parhau i edrych am ffyrdd o’i hariannu.

Byddai’r cynllun yn cyflogi swyddog datblygu mewn un ardal benodol, fyddai hefyd yn cydweithio â’r fenter iaith, fyddai’n ymweld â chyrff a mudiadau sydd yn cymdeithasu drwy’r Gymraeg fel Merched y Wawr, clybiau Ffermwyr Ifanc a thimau pêl-droed.

“Beth rydan ni’n ei obeithio ydi y gallan nhw fod yn fwy ymwybodol o beth ydi anghenion dysgwyr, a sut mae mynd o’i gwmpas i’w helpu nhw bontio o gymdeithas ddi-gymraeg i gymdeithas Gymraeg,” esboniodd Ifor Gruffydd.

Anawsterau

Yn ôl Ifor Gruffydd mae dysgwyr sydd yn sgwrsio â siaradwyr Cymraeg rhugl yn gallu dod ar draws nifer o anawsterau, gan gynnwys pobl yn siarad yn rhy gyflym neu’n rhy gymhleth, neu’n troi at y Saesneg.

Byddai sesiynau â chymdeithasau Cymraeg, meddai, yn ffordd o godi ymwybyddiaeth o anghenion dysgwyr ymysg grwpiau sydd o bosib “heb ystyried dysgwyr fel cynulleidfa”.

Gallai gwella ethos Cymreig rhai mudiadau a chymdeithasau hefyd helpu dysgwyr i allu defnyddio’u Cymraeg, ac fe fyddai’r cynllun hefyd yn ffordd o ddangos i ddysgwyr  pa gymdeithasau fyddai’n debygol o fod yn groesawgar iddyn nhw.

“Mae’n anodd iawn i ddysgwyr gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau – clwb llenyddol, er enghraifft,” meddai Ifor Gruffydd.

“Weithiau dydyn nhw ddim yn ymwybodol o sut i ddenu dysgwyr.”