Elin Jones
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion wedi dweud ei bod hi’n hen bryd gwneud cais i gael yr Eisteddfod Genedlaethol i ymweld â’r sir yn 2020.
Wrth ymweld â maes y Brifwyl ym Meifod ar ddydd Mercher, dywedodd Elin Jones wrth Golwg360 bod pobl Ceredigion yn gefnogol tu hwnt o’r Eisteddfod ac y bydden nhw’n estyn croeso cynnes iddo.
Dyw’r Eisteddfod Genedlaethol heb ymweld â’r sir ers 1992 pan gafodd ei chynnal yn Aberystwyth, a cyn hynny fe fu’r brifwyl yn Aberteifi (1976) a Llanbedr Pont Steffan (1984).
Economi Ceredigion i elwa
Mae tref Aberteifi yn ne’r sir yn cael ei ystyried yn fan cychwyn i’r Eisteddfod gyda’r Arglwydd Rhys yn cynnal cystadlaethau canu a barddoni yno mor bell yn ôl a’r flwyddyn 1776.
Mae ymchwil annibynol wedi awgrymu y gall ymweliad yr Eisteddfod ychwanegu £6-8 miliwn at economi’r ardal leol, ac yn ôl Elin Jones mae’n hen bryd i Geredigion elwa o hynny.
“Ry’n ni wedi gweld yr wythnos hon sut y mae’r wyl wedi rhoi hwb i Faldwyn – yn ddiwylliannol, ac hefyd yn nhermau’r economi a thwristiaeth,” meddai Aelod Cynulliad Plaid Cymru.
“Rwy’n sicr os gall y Cyngor Sir, gyda chefnogaeth grwpiau ac unigolion eraill, roi’r arweiniad ac os gellid darganfod maes addas, y gallwn gael y maen i’r wal ar drefnu Eisteddfod y gallwn fod yn falch iawn ohoni.”