Protest Cymdeithas yr Iaith ym Morrisons
Fe ddylai archfarchnadoedd gael eu cynnwys o dan ddeddfau’r iaith Gymraeg, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Ar faes yr Eisteddfod heddiw, maen nhw’n cyhoeddi atebion a gawson nhw gan 11 o gwmnïau archfarchnad yn holi am eu darpariaeth o ran arwyddion dwyieithog a chyflogi.

Mae’r Gymdeithas yn cyhuddo rhai cwmnïau – gan gynnwys Morrisons a Sainsbury’s – o fod ag agweddau sy’n mynd yn ôl i frwydr arwyddion Cymraeg yr 1970au.

  • Mae Morrisons yn dweud y byddai troi eu holl arwyddion yn ddwyieithog yn ddrud ac y gallai “ychwanegu ail iaith ei gwneud yn anodd i gwsmeriaid ddeall yr arwydd”.
  • Yn ôl yr adroddiad, roedd Sainsbury’s yn dweud bod holl arwyddion iechyd a diogelwch a thaliadau yn uniaith Saesneg.

Does gan gwmni Iceland, a gafodd ei sefydlu yng Nghymru, ddim arwyddion na chyhoeddiadau dwyieithog o gwbl.

Angen deddfau’

“Yr unig ffordd i fynd i’r afael â hyn yn iawn yw drwy ddeddfwriaeth,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan.

“Mae’r syniad bod arwyddion dwyieithog yn mynd i ddrysu cwsmeriaid yn debyg i’r hyn yr oedd rhai yn ei ddweud yn yr 1960au a’r 1970au am arwyddion ffyrdd.

“Maen nhw’n dangos diffyg dealltwriaeth ddifrifol o anghenion yr iaith.”