Carwyn Jones yn siarad ar faes yr Eisteddfod ym Meifod
Mae angen i’r Blaid Lafur “dargedu pobl sydd yn y canol” os ydyn nhw am ennill yr etholiad cyffredinol nesaf yn San Steffan, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Mewn cyfweliad â Golwg360 dywedodd arweinydd Llafur Cymru na fydd yn datgelu’n gyhoeddus pwy fydd e’n ei gefnogi yn y ras am arweinyddiaeth Llafur.
Awgrymodd fodd bynnag nad oedd yn debygol o bleidleisio dros Jeremy Corbyn, yr ymgeisydd sydd yn cael ei ystyried fwyaf adain chwith.
Wrth drafod etholiadau’r Cynulliad yn 2016 dywedodd Carwyn Jones y byddai’n “od” gweld plaid “Saesnigaidd” fel UKIP yn ennill tir, gan amddiffyn hefyd benderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru ar dargedau ambiwlans.
Aberthu egwyddorion?
Dros y dyddiau diwethaf mae Jeremy Corbyn wedi symud i flaen y ras ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, gyda sawl pôl piniwn yn awgrymu y gallai ennill.
Mynnodd Carwyn Jones ei fod “heb wneud penderfyniad eto” ynglŷn â phwy i gefnogi, gan awgrymu’n gryf fodd bynnag na fyddai Corbyn yn ddewis doeth i’r blaid.
“Pwy bynnag sy’n ennill [yr arweinyddiaeth], does dim modd i ni ennill oni bai ein bod ni’n targedu pobl sydd yn y canol, achos does dim digon o bobl i’r chwith o’r canol i ennill etholiad,” meddai Prif Weinidog Cymru.
“I fi, dw i moyn sicrhau bod ni wir yn blaid sy’n ennill etholiadau ar y lefel Brydeinig, ac nid yn cael ei droi mewn i grŵp academaidd sydd yn bur ei egwyddorion ond ffaelu ennill etholiad.”
Plaid ‘Saesnigaidd’
Yr wythnos diwethaf fe awgrymodd arweinydd UKIP Nigel Farage y gallai ei blaid anelu i fod yn brif wrthblaid ym Mae Caerdydd ar ôl etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Mynnodd Carwyn Jones fod cefnogaeth y blaid wedi cwympo ers mis Mai, fodd bynnag, gan gwestiynu hefyd beth fyddai eu neges yn yr etholiad yn 2016.
“Y drefn yw eu bod nhw wedi colli pleidleisiau dros y misoedd diwethaf ers yr etholiad cyffredinol, does neb yn gwybod beth fydd eu neges nhw mewn etholiad Cynulliad,” meddai Carwyn Jones.
“Ar un adeg roedden nhw yn erbyn y Cynulliad, yn erbyn y Gymraeg, yn erbyn unrhyw beth i’w wneud â Chymru.
“Bydde fe’n beth od dros ben gweld plaid mor Saesnigaidd ei hagwedd yn cael rhyw fath o gryfder yn y Cynulliad.”
Dim cymharu ar iechyd
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’n ddiweddar eu bod nhw’n bwriadu sgrapio targedau ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlans, mae’r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi awgrymu bod y gyfundrefn Lafur yn ceisio claddu newyddion drwg.
Mae’r targed at gyfer ymatebion o fewn wyth munud wedi cael ei fethu’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at gyhuddiad bod y targedau’n cael eu sgrapio cyn etholiadau’r Cynulliad.
Mynnodd Carwyn Jones nad oedd hynny’n wir gan ddweud eu bod yn cysoni’r mesuriadau â Lloegr.
“Mae’n gwmws beth sy’n digwydd yn Lloegr. Os ydyn ni am gael ei mesur mewn ffordd deg mae’n bwysig bod pobl yn medru mesur ni a chael yr un ffordd o wneud pethau,” mynnodd y Prif Weinidog.
Cyfaddefodd fodd bynnag ei fod o’r farn na ddylai ystadegau’r ddwy wlad gael eu cymharu.
“Dyle hwnna ddim gorfod digwydd, ond i fod yn onest mae’n digwydd, ni gyd yn gwybod hynny,” ychwanegodd.
“Felly os yw e’n mynd i ddigwydd, man a man ein bod ni’n cael yr un strwythur.”