Camila Batmanghelidjh, sylfaenydd elusen Kids Company
Yn ôl adroddiadau, mae elusen blant wedi dweud wrth y Llywodraeth y bydd yn dod i ben.

Mae’r BBC yn adrodd bod swyddogion y Llywodraeth, elusennau ac awdurdodau lleol wedi cael gwybodaeth ynglŷn ag effaith posib dod ag elusen Kids Company i ben.

Roedd Kids Company wedi derbyn grant o £3 miliwn gan Swyddfa’r Cabinet wythnos ddiwethaf ar ôl cytuno i wneud newidiadau ynglŷn â sut yr oedd y sefydliad yn cael ei redeg.

Fe gyhoeddodd sylfaenydd yr elusen, Camila Batmanghelidjh, fis diwethaf y byddai’n camu i lawr fel prif weithredwr fel rhan o’r ad-drefnu.

Ond mae’n debyg bod Camila Batmanghelidjh wedi e-bostio staff yr elusen wythnos diwethaf i ddweud y byddan nhw’n cael eu talu o’r arian grant, er bod Swyddfa’r Cabinet wedi dweud bod ar yr arian i’w ddefnyddio fel rhan o’r cynllun i drawsnewid yr elusen.

Dywedodd Kids Company wrth y BBC bod y dyfalu ynglŷn â dod a’r elusen i ben yn “beryglus ac yn anghyfrifol.”

Cafodd Kids Company ei sefydlu yn 1996 ac mae’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc.