Osama Bin Laden
Mae rhai o berthnasau sylfaenydd al-Qaida, Osama Bin Laden, ymysg y pedwar a laddwyd pan gwympodd awyren breifat i’r ddaear ar safle gwerthu ceir yn swydd Hampshire.

Roedd y jet Phenom 300, oedd wedi’i chofrestru yn Sawdi Arabia, yn ceisio glanio ym maes awyr Blackbushe pan blymiodd i mewn i ddwsinau o geir a dechrau fflamio brynhawn Gwener.

Yn ei ddatganiad, meddai llysgennad Sawdi Arabia yn y Deyrnas Unedig: “Mae ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Mohammed bin Nawaf Al Saud … wedi cydymdeimlo â theulu Mohammed bin Laden wedi eu colled fawr yn dilyn y ddamwain awyren a oedd yn cario ei deulu.”

Mae datganiad pellach yn dweud y byddai’r llysgenhadaeth yn gweithio gyda’r awdurdodau Prydeinig er mwyn gwneud yn siwr fod cyrff y meirwon yn cael eu dychwelyd adref gynted â phosib, er mwyn eu claddu.