Fe gafodd iawndal cannoedd o ddioddefwyr trais rhywiol ei gwtogi oherwydd eu bod wedi torri’r gyfraith.

Ers 2010 mae 12,665 o bobl wedi derbyn iawndal gan Awdurdod Iawndal Niwed Troseddol (CICA), asiantaeth sy’n cydweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, am y trais rhywiol wnaethon nhw ddioddef tra’n blant neu bobl ifanc.

Dengys gwybodaeth a ddaeth i law’r BBC yn dilyn cais rhyddid wybodaeth, bod 438 o’r rhain wedi derbyn llai o iawndal.

Yn ôl y BBC roedd rhai o’r 438 yn euog o dor-cyfraith yn ymwneud ag yfed alcohol, cyffuriau, dwyn, eiddo a thrais.

Gall CICA gwtogi iawndal wrth ddefnyddio system bwyntiau sy’n ystyried record tor-cyfraith unigolion.