Yr Old Bailey
Mae dyn o Lerpwl wedi ei gael yn euog o geisio prynu gwenwyn ricin ar y We Dywyll  ar ôl cael ei ysbrydoli gan y gyfres deledu Breaking Bad.

Bu rheithgor yn yr Old Bailey yn ystyried am bum awr a hanner cyn cael Mohammed Ali, 31 oed, yn euog o geisio prynu arf cemegol rhwng Ionawr 10 a Chwefror 12.

O dan y ffugenw Weirdos 0000, fe wnaeth Mohammed Ali gytuno i brynu 500mg o’r powdwr am $500 a oedd yn ddigon i ladd 1,400 o bobl.

Nid oedd Ali yn ymwybodol fod y cyflenwr yn swyddog gyda’r FBI  a oedd yn gweithio’n gudd. Roedd wedi cysylltu gyda’r Heddlu yn Lloegr gan anfon powdwr cyffredin ato yn lle’r ricin.

Cafodd y tad i ddau ei arestio ar ôl iddo dderbyn pecyn gyda’r “powdwr” ynddo yn ei gartref yn Lerpwl.

‘Eisiau gwybod mwy’

Dywedodd Ali wrth y rheithgor ei fod yn “awyddus i wybod mwy” am y we dywyll ac nad oedd yn ymwybodol bod ricin yn anghyfreithlon.

Fe ddywedodd yr amddiffyniad ei fod yn dangos symptomau o syndrom Asperger’s a’i fod eisiau ricin at “bwrpas heddychlon.”

Ond wfftio hynny wnaeth Sally Howes QC  ar ran yr erlyniad gan ddweud fod Mohammed Ali wedi dweud celwydd wrth yr heddlu fod ganddo ricin yn ei feddiant pan gafodd ei arestio.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Ali wedi ymchwilio a chynllwynio yn drylwyr ac yn ofalus ynglŷn â sut i brynu ricin.

Dywedodd Mr Ustus Saunders nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Ali yn cynllwynio ymosodiad brawychol ond nad oedd yn derbyn ei fod yn bwriadu cael gwared a’r ricin.

Mae’r barnwr wedi galw am adroddiad seiciatryddol cyn iddo ddedfrydu Ali ar 18 Medi.