Tren Eurotunnel yn gadael Calais
Mae un person wedi marw wrth i gannoedd o ymfudwyr geisio mynd i Dwnnel y Sianel yn Calais neithiwr, meddai cwmni Eurotunnel.

Daw’r digwyddiad diweddaraf ar ôl i 2,000 o ymfudwyr geisio cael mynediad i Dwnnel y Sianel yn Calais nos Lun, gan achosi anrhefn i deithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Eurotunnel: “Gallaf gadarnhau bod ymfudwr wedi marw neithiwr ar ôl i 1,500 geisio rhuthro i’r twnnel.”

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi rhoi addewid y bydd y Llywodraeth yn “gwneud popeth yn ei gallu” i wella’r sefyllfa a bod y mater yn “bryderus iawn.”

Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn cynnal cyfarfod brys o’r pwyllgor argyfyngau Cobra yn ddiweddarach i drafod yr argyfwng.

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi £7 miliwn ychwanegol er mwyn gwella mesurau diogelwch yn Calais ac wrth fynediad Twnnel y Sianel.

Mae’r argyfwng wedi gwaethygu yn ystod y misoedd diwethaf gyda miloedd o ymfudwyr o wledydd fel Eritrea, Syria ac Afghanistan, yn gwersylla ger y porthladd wrth iddyn nhw geisio croesi’r Sianel.