Mae economi’r DU wedi tyfu eto yn ail hanner y flwyddyn wrth i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) gynyddu 0.7%, yn ôl ffigurau swyddogol.
Mae’n golygu fod GDP y pen bellach wedi cyrraedd y lefel cyn yr argyfwng economaidd yn 2008.
Mae’r ffigwr GDP cyffredinol, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn unol â’r disgwyliadau.
Ond mae cryn ddyfalu y bydd y cyhoeddiad yn arwain at godi cyfraddau llog.
Dywedodd prif economydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Joe Grice, fod y twf cyffredinol wedi cael ei yrru gan y sector gwasanaethau a bod y twf cryfaf wedi bod mewn mwyngloddio a chwarela ers 1989.
Ond ychwanegodd fod allbwn gweithgynhyrchu wedi gostwng ychydig a bod y diwydiant adeiladu wedi bod yn fflat.