Mae Llywodraeth Prydain wedi sefydlu Comisiynydd Busnesau Bychain i ddatrys taliadau hwyr.

Dywed y llywodraeth fod busnesau bychain yn colli biliynau o bunnoedd o ganlyniadau i daliadau hwyr, ac fe fyddai’r Comisiynydd yn rhoi cyngor ac yn derbyn cwynion.

Mae’r Gweinidog Busnesau Bychain, Anna Soubry wedi addo helpu busnesau sy’n ddibynnol ar arian gan fusnesau mawrion.

Fe allai cwmnïau sy’n talu’n hwyr gael eu henwi o dan gynlluniau newydd.

Fe fydd y Comisiynydd hefyd yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth er mwyn osgoi achosion llys i gasglu arian sy’n ddyledus i fusnesau bychain.

Yn ôl arolwg gan Ffederasiwn y Busnesau Bychain y llynedd, roedd mwy na hanner y busnesau bychain a gafodd eu holi wedi derbyn taliadau hwyr yn ystod y 12 mis blaenorol.

Dywedodd Anna Soubry: “Mae’r Llywodraeth yn cefnogi busnesau bychain i dyfu a chreu rhagor o swyddi a chyfleoedd.

“Mae £26 biliwn yn ddyledus i fusnesau bychain ac maen nhw’n gwario miliynau wrth gwrso arian maen nhw wedi’i ennill drwy eu gwaith caled.

“Mae hyn yn syml iawn yn annerbyniol – mae’n cyfyngu ar eu twf a’u gallu i gynhyrchu, ac mae’n gallu peryglu busnes lwyddiannus.”

Mae’r Adran Arloesedd Busnes a Sgiliau wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar rôl y Comisiynydd.