Yn dilyn mis o drafodaethau mae cwmnïau betio Ladbrokes a Gala Coral am uno i greu cwmni gamblo mwya’ gwledydd Prydain – gwerth, £2.3biliwn.

Er bod disgwyl iddyn nhw orfod gwerthu rhai siopau er mwyn tawelu pryderon yr awdurdodau cystadleuaeth, fe fydd yr uniad yn dod â 2,100 o siopau Ladbrokes a 1,845 o rai Coral ynghyd.

Dywedodd cadeirydd Ladbrokes, Peter Erskine bod uno’n “gam strategol mawr” i wella profiad y cwsmer. “Gyda’n gilydd, byddwn yn creu busnes blaenllaw.”

Brandiau annibynnol

Er yr uno bydd Ladbrokes a Coral yn parhau fel brandiau annibynnol ar hyn o bryd, meddai pennaeth Gala Coral Carl Leaver.

“Byddwn yn parhau ar wahân, ond  gyda’n gilydd Byddwn yn cau’r bwlch gyda’n cystadleuwyr yn gynt o lawer,” meddai .

Yn ddiweddar mae Ladbrokes wedi datgan bod eu helw gweithredu wedi cwympo.

Yn y gorffennol mae Ladbrokes wedi ceisio prynu eu cystadleuwyr ond wedi gorfod rhoi’r gorau i drafodaethau, oherwydd i’r llywodraeth ar y pryd wedi dweud y byddai’n fargen wael  i’r cyhoedd