Neges wreiddiol Rajan Zed - cyn y 'tro pedol'
Mae arweinydd Hindwaidd wedi galw ar gynghorau Cymru i beidio â gwahardd pobol rhag bwydo gwylanod ac mae wedi cyhuddo Cyngor Conwy o beidio â pharchu rhyddid crefyddol wrth gefnogi gwaharddiad o’r fath.

Mewn datganiad ar ei wefan, fe ddywedodd hefyd y dylai cynghorau eraill Cymru wrthod cosbi pobol am fwydo adar ac y dylai Cyngor Dinas Abertawe roi’r gorau i wneud hynny.

Yn ôl Rajan Zed, sydd o Nevada yn yr UDA ac yn llywydd Cymdeithas Ryngwladol Hindwiaeth, dyw’r cyngor ddim wedi ystyried anghenion a thraddodiadau Hindwiaid.

‘Tro pedol’

Yn gynharach yr wythnos roedd wedi canmol Cyngor Sir Conwy am beidio â bwrw ymlaen â chynlluniau i roi dirwy i bobol oedd yn bwydo gwylanod.

Ond nawr mae’n cyhuddo’r cyngor o dro pedol wrth iddyn nhw ystyried cyflwyno is-ddeddf a fyddai’n gwahardd pobl rhag bwydo gwylanod yn Llandudno, ar ôl cwynion fod yr adar yn poenydio pobol.

Mae llawer o drefi glan môr yn cwyno am broblemau tebyg ond mae gwylanod wedi eu gwarchod.

Cwyn gan Rajan

Mae’r datblygiad diweddaraf wedi “siomi” y sefydliad Hindŵaidd, gyda Rajan Zed yn dweud y byddai gwahardd bwydo’r adar yn “diystyru teimladau rhai cymunedau”.

“Onid yw’r egwyddor ryngwladol o ryddid crefyddol yn gymwys yn Sir Conwy?” gofynnodd.

Ychwanegodd Rajan Zed fod angen i Gyngor Conwy ac eraill yng Nghymru ddangos “aeddfedrwydd a pharch” i gymunedau sydd yn ystyried bwydo adar yn “weithred o garedigrwydd a dyletswydd crefyddol”.

Yn ôl llywydd y mudiad, mae adar yn rhan bwysig o grefydd Hindŵaidd ac mae llawer o’i dilynwyr – tua biliwn ar draws y byd a mwy nag 800,000 yng ngwledydd Pydain – yn dechrau eu diwrnod wrth eu bwydo.

Delio â’r gwylanod

Er gwaethaf awgrym blaenorol eu bod wedi atal eu cynlluniau i ddirwyo pobol am fwydo gwylanod oherwydd rhesymau crefyddol, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy y byddan nhw nawr yn ceisio taclo problem yr adar.

“Mae’r niwsans y mae gwylanod yn gallu ei achosi, sydd wedi cael sylw ar y cyfryngau, yn dra hysbys yn yr ardal,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Er nad oes gan y Cyngor is-ddeddfau ar hyn o bryd i atal bwydo gwylanod, mae arwyddion mewn sawl man yn annog y cyhoedd i beidio â gwneud hynny.

“Fe ddaeth Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 i rym ar 31 Mawrth 2015 ac mae’n caniatáu awdurdodau lleol i gyflwyno is-ddeddfau yn gynt.

“Mae swyddogion wrthi yn y broses o ddrafftio is-ddeddf er mwyn gwahardd bwydo gwylanod ar Draeth y Gogledd, Llandudno, ac fe ddylai hyn gael ei gwblhau yn hwyrach eleni.”