Y lori ludw wedi'r ddamwain yn Glasgow
Cafodd fideo o gamera diogelwch o’r ddamwain lori ludw, a laddodd chwech o bobl yn Glasgow, ei ddangos ar ddechrau ymchwiliad i’r digwyddiad heddiw.

Nid oedd teuluoedd y rhai fu farw yn bresennol pan gafodd y ffilm ei dangos  yn Llys Siryf Glasgow.

Dechreuodd yr ymchwiliad gyda munud o dawelwch i gofio’r rhai fu farw yn y  ddamwain, tridiau cyn Dydd Nadolig y llynedd.

Clywodd y llys am daith y lori ludw o Heol y Frenhines i Sgwâr George, lle daeth y lori i stop ar ôl taro  ochr gwesty.

Ceisiodd pobl  ffoi rhag y lori ar ôl iddi wyro ar y palmant gan daro siopwyr.

Mewn tystiolaeth a ddarllenwyd i’r llys, dywedodd llawer o aelodau o’r cyhoedd eu bod wedi gweld gyrrwr y lori, Harry Clarke, yn “anymwybodol” gyda’i ddwylo ar y llyw.

Doedd dim byd i awgrymu fod y digwyddiad yn weithred fwriadol a doedd cyflwr y lori nag wyneb y ffordd yn ffactorau yn y ddamwain, clywodd yr ymchwiliad.

Tyst

Wedi i’r fideo gael ei chwarae, a oedd yn dangos y ddamwain yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd yn ceisio helpu’r rhai oedd wedi’u hanafu yn yr eiliadau a ddilynodd, dychwelodd y teuluoedd i’r llys i glywed gan y tyst cyntaf, Matthew Telford, oedd yn un o dri o bobl oedd yn y lori ludw.

Dywedodd Matthew Telford , 46 mlwydd oed, ei fod wedi gweithio ar loriau lludw ers saith mlynedd, gan weithio efo Harry Clarke am dair blynedd.  Dywedodd nad oedd o’n ymwybodol o unrhyw broblemau iechyd oedd gan y gyrrwr.

Dywedodd hefyd nad oedd o wedi derbyn hyfforddiant ar beth i’w wneud petai rhywun yn cael eu taro’n wael yn y lori ond fod gweithdrefnau wedi newid erbyn hyn gyda chriwiau’r loriau lludw yn cael eu hasesu’n ddyddiol bob bore.

Fe benderfynodd  Swyddfa’r Goron gynnal ymchwiliad i’r ddamwain ar ôl i erlynwyr ddweud nad oedd unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau achos troseddol.

Bu farw Erin McQuade, 18, a’i thaid a nain Jack Sweeney, 68, a Lorraine Sweeney, 69 oed, o Dumbarton yn y ddamwain.

Cafodd Stephenie Tait, 29, a Jacqueline Morton, 51, o Glasgow, a Gillian Ewing, 52, o Gaeredin, hefyd eu lladd.

Disgwylir i’r ymchwiliad edrych ar gefndir meddygol Harry Clarke, ei gymhwyster i ddal trwydded a’i record hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd hefyd yn ystyried os oedd unrhyw beth all fod wedi ei wneud i atal y lori cyn y ddamwain.