Tania Szabo, merch Violette Szabo, gyda'r actores Virginia McKenna
Mae medalau a roddwyd i ysbïwr benywaidd am ei gwaith yn ystod  yr Ail Ryfel Byd wedi cael eu gwerthu am £260,000, mewn ocsiwn heddiw.

Cafodd medal Croes Siôr a phedwar medal arall oedd yn berchen i Violette Szabo, a oedd yn gweithio yn erbyn y Natsïaid yn Ffrainc yn ystod y rhyfel, eu gwerthu o fewn munud.

Ei merch, Tania Szabo, 73, sy’n byw ger Llanfair ym Muallt oedd wedi penderfynu gwerthu’r medalau.

Cafodd y medalau eu prynu ar ran yr Arglwydd Ashcroft a byddant yn cael eu harddangos yn yr Imperial War Museum yn Llundain. Roedd y casgliad hefyd yn cynnwys medal ddewrder Ffrainc – y Croix de Guerre.

Cafodd Violette Szabo ei geni ym Mharis ym 1921 ond symudodd ei theulu i Stockwell yn Llundain. Priododd milwr o Ffrainc, Etienne Szabo, a gafodd ei ladd yng ngogledd Affrica cyn i’w merch, Tania, gael ei geni.

Anrhydedd

Ei farwolaeth wnaeth annog Violette Szabo i ymuno â’r Special Operations Executive (SOE) oedd yn ysbïo ar ran Llywodraeth y DU yn ystod y rhyfel.

Dau ddiwrnod ar ôl glaniadau D-Day, cafodd Violette Szabo ei dal gan yr SS yn Limoges yn Ffrainc. Mae’n debyg ei bod hi wedi lladd nifer o aelodau’r Gestapo cyn cael ei dal.

Wedi misoedd o gael ei harteithio, cafodd ei dienyddio yn un o wersylloedd y Natsiaid yn Ravensbruck yn 1945. Roedd yn 23 mlwydd oed.

Mae’n un o bedair o fenywod sydd wedi derbyn medal Croes Siôr – yr ail anrhydedd filwrol uchaf i gael ei roi yn y DU ar ôl Croes Victoria.

‘Bydd pobl yn gallu eu gweld nhw’

Dywedodd ei merch Tania, 73, ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd i werthu’r medalau  ond ei bod wedi gwneud hynny yn dilyn tân yn ei chartref ger Llanfair ym Muallt: “Rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniad. Byddan nhw’n mynd i le diogel ble fydd pobl yn gallu eu gweld nhw – felly canlyniad da.”

Dywedodd Michael Naxton, curadur casgliad Ashcroft, mai’r fedal  Croes Siôr yw un o’r medalau dewder mwyaf eiconig yr ugeinfed ganrif.

Roedd yr actores Virginia McKenna, a oedd wedi chwarae rhan Violette Szabo mewn ffilm amdani, Carve Her Name With Pride, yn 1958, hefyd yn yr arwerthiant.