Dylid blaenoriaethu atal hunanladdiad ymysg dynion canol oed, yn ol astudiaeth newydd gan Brifysgol Manceinion.

Rhybuddiodd yr astudiaeth  fod hunanladdiad mewn cleifion gyda phroblemau iechyd meddwl hefyd wedi dod yn “lawer mwy cyffredin”.

Meddai’r adroddiad fod ffactorau fel camddefnyddio alcohol, unigedd, diweithdra a dyled yn ychwanegu at y risg o hunanladdiad mewn cleifion gwrywaidd.

Fe wnaeth bron i 2,000 o gleifion iechyd meddwl farw trwy hunanladdiad yn 2013.  Roedd hunanladdiadau ymysg cleifion iechyd meddwl yn cyfrif am 30% o’r holl achosion o hunanladdiad – cynnydd o 3% o’i gymharu a 10 mlynedd ynghynt.

Mae nifer yr hunanladdiadau ymysg cleifion gwrywaidd yn y DU wedi codi 29%, dywedodd yr adroddiad.

Meddai’r adroddiad fod hunanladdiadau ymysg cleifion wedi dod yn fwy cyffredin ers 2009 – gan gysylltu’r cynnydd gyda’r cynnydd o gleifion iechyd meddwl yn Lloegr.

Mae diffyg triniaethau lleol yn ffactor, dywedodd yr ymchwilwyr, gan alw am adolygiad o ofal acíwt a rhoi terfyn ar roi triniaeth i gleifion tu hwnt i’w hardal leol.

Ychwanegodd yr adroddiad fod teuluoedd a gofalwyr yn “adnodd hanfodol sy’n cael eu tan-ddefnyddio mewn gofal iechyd meddwl” ac awgrymodd y byddai manteision petai darparwyr gofal iechyd meddwl yn gweithio’n fwy agos gyda nhw.