Safle'r ffrwydrad mewn melin goed yn Bosley
Mae corff arall wedi’i ganfod wrth i’r gwasanaethau tân ac achub barhau i chwilio am y gweithwyr coll yn dilyn ffrwydrad mewn melin goed yn Swydd Gaer ddydd Gwener.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd i’r ail gorff ar y safle  trin coed ym mhentref Bosley, ond nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Does neb wedi gweld William Barks, 51, Dorothy Bailey, 62, Jason Shingler, 38, na Derek Moore, 62 ers y ffrwydrad ddydd Gwener a wnaeth ddymchwel yr adeilad pedwar llawr.

“Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi’u dal yn y digwyddiad dychrynllyd hwn,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân ac achub.

“Dinistr llwyr”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerllion yn parhau i chwilio am y rhai sydd ar goll, ac yn cydweithio â’r Heddlu a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ddeall beth oedd achos y tân.

Fe wnaeth Paul Hancock, prif swyddog tân Swydd Gaer awgrymu nad oedd fawr o obaith o ddod o hyd i’r gweithwyr yn fyw bellach, wrth i’r gwasanaeth droi eu sylw at ‘chwilio ac adfer’ yn hytrach na ‘chwilio ac achub’.

Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gloddio ardal o tua 5m x 5m, a disgrifiodd Paul Hancock yr olygfa fel un o “ddinistr llwyr”.

Mae tri swyddog o Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gweithio gyda Heddlu Swydd Gaerllion yn eu pencadlys fel rhan o’r ymchwiliad i’r hyn achosodd y ffrwydrad.

‘Dim cydymdeimlad’

Dywedodd aelod o deulu un o’r gweithwyr eu bod yn “grac iawn, iawn” am y diffyg arwydd o gydymdeimlad y mae perchnogion y felin, Wood Treatment Cyf, wedi’i ddangos.

Yn ôl Kelvin Barks, brawd William Barks, un o’r gweithwyr: “Mae fy mrawd wedi bod ar goll ers tridiau nawr. Yn yr amser hynny, dyw’r cwmni ddim wedi cysylltu â ni o gwbl. Dy’n nhw ddim wedi cynnig cymorth, cydymdeimlad na help.”

“Sioc a thristwch”

Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyflwyno gwelliannau i’r cwmni yn eu rhybuddio am y perygl o ffrwydrad neu dân.

Bu achos o dân ar y safle yn ystod 2010 a 2012.

Mewn datganiad, mae penaethiaid y felin wedi mynegi “sioc a thristwch” am y digwyddiad ac yn cydymdeimlo â’r rhai a effeithiwyd.

“Mae’r felin wedi bod yn rhan o gymuned Bosley ers 1927, ac rydym ni’n ystyried diogelwch ein gweithwyr fel mater o bwysigrwydd mawr”.

“Rydym ni’n ymrwymo i ddarganfod beth oedd achos y digwyddiad, gan barhau i gydweithredu â’r gwasanaethau brys a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”