Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Cyhoeddwyd yn y Sioe Frenhinol mai Menter a Busnes sydd wedi ennill y cytundeb i ddarparu rhaglen o wasanaethau ar gyfer busnesau amaethyddol a choedwigaeth yng Nghymru.
Bydd y cytundeb newydd yn darparu gwasanaeth i ffermwyr a choedwigwyr ar sut i reoli eu busnesau gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
Bydd y ddarpariaeth yn dal i ddwyn yr enw Cyswllt Ffermio, sy’n rhan o Menter a Busnes, ond bydd Lantra a Chyngor Sgiliau’r Sector yn cydweithio â nhw i ddarparu gwasanaeth dysgu a datblygu gydol oes.
‘Cefnogaeth i amaethyddiaeth’
Mae’n un o bedwar cynllun newydd ar ran Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.
Bydd y cynllun yn buddsoddi arian Llywodraeth Cymru a’r UE i adfywio cymunedau gwledig a darparu cefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru.
‘Gweledigaeth’
Croesawodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, y ddarpariaeth gan ddweud fod, “gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiant amaeth yn golygu rhoi’r arfer a’r dechnoleg orau ar waith.”
Mae Menter a Busnes yn gwmni annibynnol sy’n gyfarwydd â hybu busnesau yng Nghymru. Ers 2011, mae Cyswllt Ffermio wedi delio â mwy na 14,000 o geisiadau sy’n ymwneud â gwasanaethau cymorthdaledig i ffermwyr.
“Rydym wedi cael llwyddiant sylweddol gyda nifer o brosiectau trosglwyddo gwybodaeth gan gynnwys Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, Cystadleuaeth Menter Ffermwyr, a’r Gronfa Arloesedd Ffermwyr”, meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes.
Ymchwil gwyddonol a dysgu gydol oes
Bydd Menter a Busnes yn cydweithio â sefydliadau tebyg i IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, Hybu Cig Cymru, DairyCo a chwmnïau annibynnol eraill er mwyn sicrhau “tîm cryf o bartneriaid”, meddai Eirwen Williams.
Byddan nhw’n rhoi pwyslais ar ymchwil gwyddonol gan greu Canolfan Gyfnewid Gwybodaeth i sicrhau fod amaethwyr a choedwigwyr Cymru yn cael yr wybodaeth fwyaf perthnasol.
Bydd Lantra Cymru, sefydliad sy’n cefnogi diwydiannau’r tir a’r amgylchedd, yn darparu rhaglen o ddysgu a datblygu gydol oes fel rhan o’r cynllun gan gynnig cyfres o gyrsiau hyfforddiant a rhaglenni e-ddysgu.
Mae annog amaethwyr a choedwigwyr i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn “cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth am ddiwydiant cynaliadwy,” meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru.
Bydd y cynllun newydd yn dod i rym ym mis Hydref eleni.