Mae cost yswiriant ceir ar gynnydd sylweddol am y tro cyntaf ers tair blynedd, ond gyrwyr yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio leiaf.

Yn ôl Mynegai Premiwm Yswiriant Prydeinig yr AA, mae newidiadau diweddar a gafodd eu cyhoeddi fel rhan o Gyllideb Llywodraeth Prydain yn debygol o ychwanegu £18 at gost polisi blynyddol yswiriant ceir cynhwysfawr.

Yr amcangyfrif ar gyfartaledd i yrrwr sy’n chwilio am yswiriant cynhwysfawr yn y tri mis hyd at fis Mehefin oedd £549.46, sy’n cyfateb i gynnydd chwarterol o £27.34 neu 5.2%.

Y gost ar gyfartaledd yn yr un cyfnod y flwyddyn gynt oedd £520.

Dyma’r tro cyntaf i gostau gynyddu’n sylweddol ers gaeaf 2011.

Mae’n ymddangos mai gyrwyr ifainc sy’n cael eu targedu ar y cyfan, wrth i bobol 23-29 oed weld cynnydd o 6.2% yn eu hyswiriant i £682.62.

Ond gyrwyr o dan 70 oed gafodd y cynnydd lleiaf – 3.8% i £392.13.

Fesul rhanbarth, yn ne-orllewin a gogledd-ddwyrain Lloegr roedd y cynnydd mwyaf – 6.4%.

Yn ôl Cyllideb y Canghellor George Osborne, fe fydd cost treth yswiriant yn codi o 6% i 9.5% o fis Tachwedd ymlaen.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Yswiriant AA, Janet Connor: “Mae dyddiau yswiriant ceir rhad ar ben – mae cynnydd mewn prisiau’n anochel.”

Ychwanegodd y byddai’r dreth yn golygu cynnydd o £18 yng nghost yswiriant ceir ar gyfartaledd.