Parhau mae’r chwilio am dri o weithwyr y credir sydd wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad mewn melin goed.

Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff un o’r gweithwyr eraill yn y rwbel ym mhentref Bosley, Sir Gaer ond nid yw wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ddydd Gwener gan ddymchwel yr adeilad pedwar llawr.

Mae ’na ofnau bod pedwar wedi’u lladd yn y ffrwydrad – William Barks, 51, Dorothy Bailey, 62, Jason Shingler, 38, a Derek Moore, 62.