Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gyllell, ac wedi ei hanfon i gael profion fforensig, wrth iddyn nhw barhau i holi dyn ynglyn ag ymosodiad ar fin y ffordd a llofruddiaeth honedig hen-daid yn ne Lloegr.

Fe gafodd Donald Lock, 79, ei drywanu â chyllell nifer o weithiau wedi iddo ddod allan o’i gai yn dilyn gwrthdrawiad bach ar ffordd yr A24 ger Worthing yng Ngorllewin Sussex.

Bu farw’r henwr yn y fan a’r lle tua 8.40yh, nos Iau.

Mae dyn 34 oed o Worthing yn cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o lofurddio. Fe gafodd ei arestio gan heddweision arfog tua 18 awr wedi’r digwyddiad ar yr A24.