Emanuele Manzi yn cael ei holi ar ddiwedd y ras
Rhedwr o’r Eidal sydd wedi ennill 40fed Ras yr Wyddfa yn Llanberis heddiw.

Fe groesodd Emanuele Manzi (rhif 36) y llinell derfyn mewn 1 awr, 10 munud a 19 eiliad, ar ol rhedeg dros 10 milltir i gopa mynydd uchaf Cymru ac i lawr wedyn.

Y wraig gynta’ i gwblhau’r cwrs eleni oedd Sarah McCormick, mewn 1 awr, 20 munud a 56 eiliad.

Fe gynhaliwyd y ras gynta’ i ben yr Wyddfa yn y flwyddyn 1976, ac erbyn hyn, mae’n un o rasus mynydd gorau Ewrop.