Mae bachgen naw mlwydd oed, ynghyd â dau blentyn arall, wedi’u hanafu mewn damwain bws mini ar draffordd brysur yn Lloegr.

Fe ddioddefodd y bachgen anaf i’w ben pan fu’r bws mini mewn gwrthdrawiad â lori ar yr M6, wrth deithio i gyfeiriad y de ger cyffordd 14 tua 2.30yb.

Fe gafodd Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Lloegr ei alw yn dilyn adroddiad fod merch 16 oed yn sownd yn y cerbyd. Fe gafodd ei rhyddhau, a’i chludo i’r ysbyty yn diodde’ o boen yn ei gwddw a’i hysgwydd. Mae plentyn arall wedi derbyn triniaeth i anafiadau ar ei ben a’i wyneb.