Mae teulu dyn o dras Bwylaidd a gafodd ei drywanu i farwolaeth, yn dweud eu bod nhw ar chwâl yn dilyn y digwyddiad yn Burton-upon-Trent.

Fe ddaeth swyddogion yr heddlu o hyd i Tomasz Bachta ar stryd yn Burton-upon-Trent ben bore dydd Mercher. Roedd wedi’i anafu’n ddifrifol iawn, a bu farw’n ddiweddarach.

Mewn datganiad a ryddhawyd gan Heddlu Swydd Stafford, meddai ei gymar, Magdalene Hycnar: “Mae pawb yma, a’i deulu  yng ngwlad Pwyl, wedi torri eu calonnau o golli Tomasz, ac rydan ni’n gofyn i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad, i gysylltu efo’r heddlu.”

Fe ddaeth yr apêl wrth i bedwar dyn o Burton gael eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Bartosz Ojeda-Rodriguez, 35; Stanislaw Czyz; Andrzej Pawel Czyz; ynghyd â Bartlomiej Bilas, 29, wedi’u cyhuddo o ladd Tomasz Bachta.

Roedd Piotr Miezal, 33, eisoes yn y ddalfa, ac fe ymddangosodd mewn llys ddoe.

Mae disgwyl i’r pump dyn ymddangos yn y llysoedd yng nghwrs yr wythnosau nesaf.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.