Banc Lloegr
Fe allai pobol orfod dechrau talu rhagor am eu morgeisi a benthyciadau eraill erbyn diwedd y flwyddyn, yn ôl Banc Lloegr.

Ond fe fyddai hynny hefyd yn golygu bod pobol yn cael rhagor o log ar eu cynilion.

Fe gyhoeddodd Llywodraethwr y Banc, Mark Carney, ei fod yn disgwyl y byddai cyfraddau llog dechrau codi tua’r hydref, ar ôl bod ar 0.5% – eu lefel isa’ erioed – ers blynyddoedd.

Codi tros dair blynedd

Fe fydd cyfraddau’n codi’n raddol wedyn yn ystod y tair blynedd nesa’, meddai’r Llywodraethwr mewn araith neithiwr.

Roedd yn disgwyl y byddai llog wedyn yn setlo ar ychydig tros 2% – tua hanner y lefel hanesyddol arferol.

Ond fe rybuddiodd hefyd y gallai problemau economaidd a digwyddiadau annisgwyl effeithio ar y rhagolygon.