Fe fydd cynrychiolwyr cwmnïau teledu annibynnol Cymru yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Diwylliant yn San Steffan i geisio achub S4C rhag rhagor o doriadau.

Roedd Cadeirydd cymdeithas y cwmnïau annibynnol, TAC, wedi taro ar John Whittingdale mewn derbyniad ac  wedi cael gwahoddiad i drefnu sgwrs.

Mae TAC yn pryderu y gallai’r toriadau a’r newidiadau mawr sy’n wynebu’r BBC effeithio ar y sianel Gymraeg hefyd.

Mae S4C eu hunain wedi rhybuddio cyn hyn y byddai rhagor o doriadau yn cael effaith ddifrifol ar y gwasanaeth ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am godi incwm y sianel yn ôl i’w lefel cyn y dirwasgiad.

Y Papur Gwyrdd

Mae’r pryderon diweddara’n codi yn sgil Papur Gwyrdd Llywodraeth Prydain ar ddyfodol y BBC – gan gynnwys yr awgrym y gallai’r Gorfforaeth orfod rhoi’r gorau i wneud rhai mathau o raglenni neu y byddai’n rhaid i bobol dalu’n ychwanegol amdanyn nhw.

Mae John Whittingdale hefyd wedi awgrymu y byddai disgwyl i S4C wynebu’r un math o doriadau â’r BBC, sydd bellach yn gyfrifol am tua 90% o incwm y sianel.

Ond mae tua £7 miliwn yn dod yn uniongyrchol o’r Adran Ddiwylliant yn Llundain.

‘Dim rhagor o doriadau’

Ond, yn ôl Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC, mae achos S4C yn “gwbl, gwbl” wahanol.

Fe ddywedodd wrth y BBC ei hun na ddylai’r sianel wynebu rhagor o doriadau ac nad oedd neb yn dweud y byddai’r gwaith o achub diwylliant yn rhad.

Roedd angen addewid, meddai, y byddai arian S4C yn codi o flwyddyn i flwyddyn, yn unol ag addewid i godi ffi’r drwydded deledu.

“Dyna’r unig ffordd y mae yna ddyfodol i ddarlledu yng Nghymru,” meddai.

Adfer incwm, meddai’r Gymdeithas

Mae S4C yn “ymylol” yn y Papur Gwyrdd, meddai Cymdeithas yr Iaith, sy’n dweud bod y toriadau sydd wedi bod eisoes yn peryglu dyfodol y sianel.

“Mae’r sianel, a’r Gymraeg, eisoes wedi talu pris anghymesur am y dirwasgiad,” meddai ei llefarydd ar ddarlledu, Aled Powell.

“Dylai’r Llywodraeth adfer y buddsoddiad yn S4C i’r lefelau a roddwyd cyn y dirwasgiad ac ail-osod fformiwla ariannu’r sianel mewn statud. Dyna sut y bydd yn gallu bod yn annibynnol ar unrhyw ddarlledwr arall, yn ariannol, yn strategol ac yn olygyddol.”