Huw Stephens
Fe fydd y cyflwynydd radio Huw Stephens a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor heddiw.
Bydd y ddau – sy’n gefndryd – yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremoni raddio’r prynhawn yma.
Yn ogystal â bod yn aelod o’r band blaenllaw, fe fu Gruff Rhys yn gweithio ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y ffilm ‘Set Fire to the Stars’ sy’n adrodd hanes dyddiau olaf y bardd Dylan Thomas.
Gruff Rhys
Yn ogystal, fe fu’n gweithio ar brosiect ‘American Interior’ – taith, ffilm a llyfr yn dilyn ôl traed y Cymro John Evans o’r Waunfawr ym Missouri fu’n ceisio chwilio am lwyth o Indiaid brodorol oedd yn siarad Cymraeg.
Mae’r llyfr a ddeilliodd o’r daith wedi’i gynnwys ar restr fer categori Ffeithiol Greadigol Saesneg ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2015.
Mae Huw Stephens yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.
Ef oedd DJ ieuengaf Radio 1 a chyd-gyflwynydd rhaglenni cerddoriaeth C2 ar Radio Cymru.
Yn ystod ei yrfa, mae e wedi bod ynghlwm wrth sawl gŵyl, gan gynnwys sefydlu gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd.