Yr Ustus Lowell Goddard
Mae achosion o gam-drin plant yn rhywiol wedi gadael eu “creithiau” nid yn unig ar y dioddefwyr ond cymdeithas hefyd, yn ôl cadeirydd ymchwiliad annibynnol.

Dywedodd y Barnwr Lowell Goddard, sydd yn arwain yr ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin  plant, y gallai un o bob 20 plentyn fod wedi cael eu cam-drin.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu’r llynedd gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn dilyn honiadau bod y sefydliad wedi celu achosion o gam-drin plant oedd yn digwydd yn San Steffan yn yr 1980au.

Ond mae wedi cymryd tan nawr i ddechrau ei gwaith o ddifrif ar ôl oedi yn dilyn ymddiswyddiad dau o gyn-gadeiryddion yr ymchwiliad.

‘Un o bob ugain’

Dywedodd yr Ustus Lowell Goddard, sydd yn farnwr uchel lys o Seland Newydd, bod awgrymiadau fod “un o bob ugain o blant yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef o gam-drin rhywiol”.

Ychwanegodd ei bod hi’n bosib bod llawer mwy o achosion wedi digwydd “nag y mae’r ffigyrau swyddogol yn eu hamcangyfrif”, a bod gan yr ymchwiliad “popeth sydd angen arnom ni i ganfod y gwirionedd”.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ffigyrau dylanwadol o fewn San Steffan yn ogystal â chyrff eraill ar hyd a lled y wlad gan gynnwys cartrefi plant, ysbytai, yr heddlu, y cyfryngau a’r lluoedd arfog.

Mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r ymchwiliad “herio sefydliadau preifat pwerus”, meddai’r Ustus Goddard, gan ychwanegu na fyddai canfyddiadau’r ymchwiliad yn aros yn ddirgel.

“Rydw i’n benderfynol o roi cymaint o wybodaeth i’r cyhoedd ag sydd yn bosib, mor fuan ac y galla’i,” meddai.

Galw am dystiolaeth

Dywedodd y Twrnai Cyffredinol Jeremy Wright QC y bydd pobl oedd yn cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad yn medru gwneud hynny heb boeni am gael eu herlyn.

Byddai hynny’n ymestyn i unrhyw weision sifil neu eraill oedd yn gallu rhoi tystiolaeth ynglŷn â cham-drin rhywiol yn erbyn plant, yn ogystal ag unrhyw un oedd â thystiolaeth eisoes – ond nid y rheiny oedd yn cyfaddef cam-drin plant.

Dywedodd yr Ustus Goddard ei bod yn disgwyl i waith y panel gael ei gwblhau erbyn 2020, gydag adroddiadau cyson wrth iddi fynd yn ei blaen.

“Rydyn ni eisiau clywed gan unrhyw un gafodd eu cam-drin yn rhywiol fel plant mewn lleoliad sefydliadol fel cartref gofal, ysgol neu sefydliad crefyddol, unrhyw un soniodd am gam-drin wrth rywun o awdurdod fel swyddog heddlu, gweithiwr cymdeithasol neu athro ble cafodd y cam-drin ei anwybyddu neu ddelio’n anghywir.”