Alexis Tsipras
Fe fydd Gwlad Groeg yn cyflwyno manylion cynlluniau ar gyfer diwygiadau economaidd heddiw mewn ymdrech olaf i sicrhau rhagor o gymorth.

Mae Prif Weinidog y wlad Alexis Tsipras wedi gwneud apêl i geisio dod i gytundeb ynglŷn â dyledion y wlad a fydd yn cynnig “golau ar ddiwedd y twnnel” ar ôl mwy na phum mlynedd o doriadau.

Gyda’r banciau ar fin methdalu, mae Athen wedi gwneud cais am becyn ariannol gan y Mecanwaith Sefydlogrwydd Ewropeaidd (ESM) er  mwyn osgoi hynny a’r posibilrwydd o orfod gadael parth yr ewro.

Dywedodd llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk mai dyma fydd “y cyfle olaf” gyda therfyn amser i ddod i gytundeb erbyn diwedd yr wythnos.

Mae Gwlad Groeg wedi cynnig cyflwyno cyfres o ddiwygiadau i drethi a phensiynau mor fuan ag wythnos nesaf er mwyn sicrhau cymorth gan yr ESM.