Banc Lloegr
Fe fydd cyfraddau llog yn aros yn eu hunfan yn 0.5% cyhoeddodd Banc Lloegr heddiw, ddiwrnod wedi Cyllideb y Canghellor George Osborne.

Nid yw cyfraddau llog wedi newid ers mwy na chwe blynedd ac nid oes disgwyl iddyn nhw gynyddu tan y flwyddyn nesaf.

Mae’n debyg bod Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) y Banc wedi ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys cynnydd mewn cyflogau, rhagolygon o dwf yn economi’r DU, ynghyd a phryderon am argyfwng ariannol Gwlad Groeg a ffigurau manwerthu siomedig.

Mae llai o bwysau i godi cyfraddau llog gan fod chwyddiant yn parhau’n isel ar 0.1%, sy’n llawer is na tharged y Banc o 2%.