Cadair bardd Yr Haf, R Williams Parry
Fe fydd cyfle prin i weld Cadair Bardd yr Haf dros y penwythnos wrth iddi  ddychwelyd i Ddyffryn Nantlle.

Y bardd R Williams Parry a’i henillodd yn Eisteddfod Bae Colwyn 1910 ac nid yw’r gadair wedi bod yn ei chynefin ers blynyddoedd lawer.

Gosodwyd arwydd yn ddiweddar yn Nyffryn Nantlle yn nodi’r fan lle penderfynodd y bardd i anfon awdl Yr Haf i gystadleuaeth y Gadair.

Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth sydd wedi rhoi’r gadair a fydd i’w gweld yn Neuadd Goffa Penygroes ddydd Sadwrn, ynghyd a chreiriau eraill y bardd o Amgueddfa Bangor.

Bore dydd Sadwrn, bydd cyfle i fynd ar daith gerdded i Fynydd Cwm Dulyn, ac yn y prynhawn, bydd Karen Owen yn tywys taith gerdded arall i gyfeiriad Talysarn. Gyda’r nos, Sam Roberts, yr anturiaethwr o Gaernarfon fydd yn cael ei holi yn y Neuadd Goffa.

Mae’r digwyddiadau’n cael eu trefnu  gan Dyffryn Nantlle 2020 i ddathlu etifeddiaeth lenyddol y dyffryn.

Bydd y Gadair i’w gweld yn Neuadd Goffa Penygroes rhwng 1 a 2pm ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11.