Arwel Ellis Owen
Mae cyn-bennaeth y BBC ac S4C wedi rhybuddio y gallai’r sianel Gymraeg wynebu toriadau o hyd at 10% i’w chyllideb dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Arwel Ellis Owen ei fod hefyd yn pryderu am annibyniaeth y BBC, yn dilyn newidiadau i’r ffordd y bydd trwyddedau am ddim i’r henoed yn cael eu hariannu.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan, John Whittingdale, eisoes wedi dweud y dylai S4C ddisgwyl toriadau i’w chyllideb dros y blynyddoedd nesaf.

‘£1.5m y flwyddyn’

Wrth drafod y toriadau i gyllideb y BBC yn dilyn Cyllideb y Canghellor George Osborne, fe rybuddiodd Arwel Ellis Owen mai mater o amser fydd hi tan y bydd arian S4C yn cael ei gwtogi hefyd.

“Nid fy lle i ydi penderfynu a ydi’r cwtogi y mae’r Llywodraeth neu’r BBC yn mynd i fynnu gan S4C yn deg neu beidio,” meddai cyn-brif weithredwr y sianel wrth raglen Y Sgwrs.

“Ond fel dw i’n ei gweld hi, o incwm o £80m y flwyddyn … dw i’n rhagweld y bydd disgwyl iddyn nhw wneud cyfraniad o tua £1.5m y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Dyna faint yr arbedion dw i’n credu y mae’r Llywodraeth yn sôn amdano fo.”

Byddai hynny’n golygu torri £7.5m, neu bron i 10%, o gyllideb y sianel dros y pum mlynedd nesaf.

“Byddai cwmni mawr masnachol sydd â throsiant o £80m dw i’n credu yn medru dygymod â’r math yna o gwtogi. [Ond] ydi o’n rhesymol, yn sefyllfa darlledu yn y Gymraeg? Dw i ddim yn siŵr,” ychwanegodd Arwel Ellis Owen.

Pryder am y BBC

Dywedodd Arwel Ellis Owen ei fod hefyd yn bryderus am annibyniaeth y BBC, ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi y byddai’r gorfforaeth yn gyfrifol am ariannu’r ffi drwydded am ddim i bobl dros 75 oed o hyn ymlaen.

Roedd hyn, meddai, yn rhoi’r gorfforaeth mewn safle o fod yn gyfrifol am bolisi cymdeithasol.

“Mae’n fy nharo i’n rhyfedd iawn bod y BBC wedi llyncu’r syniad yma bod gan y Llywodraeth hawl i ymyrryd ac i gyfeirio polisi’r ymddiriedolaeth,” meddai Arwel Ellis Owen.

“Mae ‘na gyd-destun gwleidyddol i’r sefyllfa ac mae hwnnw’n peri gofid mawr i mi, nid yn unig y BBC – mae hwnnw’n gorff mawr, yn adnabyddus ar draws y byd, yn ennill incwm o fwy na £3biliwn y flwyddyn.

“Meddyliwch chi wedyn ar effaith hynny ar S4C ac mae rhywun wedyn yn gorfod pryderu.”