Mae’r Llywodraeth wedi gwneud tro pedol ynglŷn â’i chynlluniau dadleuol i gyflwyno Pleidleisiau Seisnig ar Ddeddfau Seisnig – EVEL.

Mae wedi dweud y bydd y cynlluniau’n cael eu diwygio a bydd pleidlais yn y Senedd yn cael ei gohirio tan o leiaf fis Medi.

Roedd David Cameron yn wynebu cael ei drechu yn y bleidlais wrth i’r Blaid Lafur a’r SNP, ynghyd a rhai Ceidwadwyr, wrthwynebu’r cynlluniau.

Fe gyhoeddodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin Chris Grayling wrth ASau heddiw y bydd trafodaeth deuddydd ynglŷn â’r drafft newydd.

Fe fydd y drafft newydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, tra bod disgwyl i’r drafodaeth gyntaf gael ei chynnal ddydd Mercher.  Nid oes dyddiad wedi cael ei bennu hyd yn hyn ar gyfer yr ail ddiwrnod o drafodaethau.