Yr Ustus Lowell Goddard
Fe fydd yr ymchwiliad hirddisgwyliedig i achosion hanesyddol o gam drin plant yn dechrau’n swyddogol heddiw.

Fe fydd y Barnwr Lowell Goddard, sy’n arwain yr ymchwiliad, yn gwneud datganiad ar ddechrau’r ymchwiliad i amlinellu sut y bydd yn cael ei gynnal.

Cafodd yr ymchwiliad annibynnol ei sefydlu’r llynedd yn dilyn honiadau bod grŵp o bedoffiliaid wedi cam-drin plant yn San Steffan yn yr 1980au a bod yr achosion wedi cael eu celu.

Ond mae oedi wedi bod cyn dechrau’r ymchwiliad a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May fis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd yr Ustus Goddard o Seland Newydd ei phenodi i’r swydd yn dilyn ymddiswyddiad dau o’r cadeiryddion blaenorol.

Fe ymddiswyddodd y Farwnes Butler-Sloss ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl i gwestiynau godi ynglŷn â rôl ei diweddar frawd, yr Arglwydd Havers, pan oedd yn dwrne cyffredinol yn yr 80au.

Cafodd ei holynu gan y Fonesig Fiona Woolf ond fe ymddiswyddodd hi yn dilyn beirniadaeth o’i chyfeillgarwch gyda’r cyn ysgrifennydd cartref Leon Brittan, a fu farw’n gynharach eleni.

Cafodd yr Ustus Goddard ei phenodi ym mis Mawrth.

Pwrpas yr ymchwiliad yw ystyried i ba raddau yr oedd y “wladwriaeth neu sefydliadau sydd ddim yn rhan o’r wladwriaeth wedi methu yn eu dyletswydd i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u hecsbloetio’n rhywiol.”