Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Mae’r BBC ac ITV wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n gwneud cais ar y cyd i ddarlledu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o 2018 ymlaen.

Mae cryn ddyfalu  bod y ddau ddarlledwr wedi ymuno er mwyn sicrhau na fydd yr hawliau yn mynd i ddarlledwyr sy’n codi tâl am wylio, fel Sky Sports neu BT Sport.

Mae prif bencampwriaeth rygbi Ewrop, y Pro 12 a theithiau’r Llewod eisoes yn cael eu darlledu ar Sky Sports a BT Sport.

Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur dros Chwaraeon, Clive Efford, y byddai’n “gamgymeriad mawr” rhoi hawliau teledu’r gystadleuaeth i sianel sy’n codi arian am ei wylio.

Meddai Clive Efford: “Rwy’n croesawu’r newyddion fod y BBC ac ITV am weithio gyda’i gilydd i sicrhau fod darlledu’r Chwe Gwlad yn aros yn rhad ac am ddim.

“Byddai’n gamgymeriad mawr i gystadleuaeth rygbi arall gael ei roi ar deledu tanysgrifio, gan gyfyngu’r cyhoeddusrwydd mae’r gamp yn ei gael ymhellach, yn enwedig i’r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr rygbi posibl.”