Mae cyn-ysgrifennydd yr Alban wedi mynnu y byddai ceisio rhuthro cynlluniau’r llywodraeth i sefydlu ‘Senedd Saesnig’ yn peryglu dyfodol y Deyrnas Unedig.

Mewn dadl frys yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw fe gyhuddodd Alistair Carmichael y Ceidwadwyr o geisio cyflwyno’r newid er mwyn bodloni cenedlaetholwyr Saesnig.

Mae disgwyl i bleidlais gael ei chynnal yr wythnos nesaf er mwyn newid rheolau’r Tŷ a chyflwyno rheol Pleidleisiau Saesnig i Ddeddfau Saesnig (EVEL).

Cafwyd beirniadaeth hefyd i gynlluniau’r Llywodraeth gan brif lefarydd y Blaid Lafur ar faterion Cymreig, Owen Smith, ac AS Plaid Cymru Jonathan Edwards.

Rhai methu pleidleisio

Yn ôl cynnig y Llywodraeth fe fyddai gan Lefarydd  Tŷ’r Cyffredin yr hawl i benderfynu os yw deddf yn ymwneud â Lloegr, neu Gymru â Lloegr, yn unig.

Byddai’n rhaid i unrhyw ddeddfau oedd wedi cael eu penodi yn y modd hwnnw gan y Llefarydd gael cefnogaeth mwyafrif ASau’r gwledydd hynny er mwyn eu pasio.

Ond fe fyddai hynny’n golygu bod ASau o’r Alban, er enghraifft, yn methu pleidleisio ar rai deddfau er y gallai’r deddfau fod yn effeithio’n anuniongyrchol arnyn nhw.

Senedd i Loegr?

Mynnodd cyn-ysgrifennydd yr Alban, Alistair Carmichael, bod angen i bobl Lloegr benderfynu a oedden nhw eisiau cyrff datganoledig rhanbarthol, neu un Senedd i Loegr.

“Mae’n ymateb dealladwy fod pobl yn Lloegr wedi uniaethu â diddordeb cenedlaethol yn sgil beth welon nhw yn yr etholiad cyffredinol ymchwydd o genedlaetholdeb Albanaidd i’r gogledd o’r ffin,” meddai’r Democrat Rhyddfrydol.

“Ond nid yr ateb i hynny yw rhagor o genedlaetholdeb. Yr ateb yw, byddwn i’n ei ddweud, i gael strwythur ffederal go iawn ar draws y Deyrnas Unedig.”

‘Pawb yn cael pleidleisio’

Mynnodd Chris Grayling, arweinydd Ceidwadol  Tŷ’r Cyffredin, sydd wedi cyflwyno’r cynllun, bod Llafur wedi methu eu cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â diwygiad cyfansoddiadol.

“Bydd pob Aelod Seneddol yn gallu parhau i ddadlau a phleidleisio ar bob deddfwriaeth sy’n pasio drwy Dŷ’r Cyffredin,” meddai Chris Grayling.

“Mae’n anghywir i ddweud y bydd rhai aelodau o’r Tŷ yn cael eu gwahardd rhag pleidleisio neu ddadlau ar unrhyw ddeddfwriaeth.”

‘Beth yw deddf Saesnig?’

Ymysg ASau’r wrthblaid a siaradodd yn y ddadl roedd cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, a ofynnodd ble oedd y diffiniad ar gyfer “Deddf Lloegr yn unig”.

Mae llefarydd y blaid ar faterion Cymreig, Owen Smith, hefyd wedi beirniadu cynlluniau’r Llywodraeth Geidwadol am “chwarae gyda thân” ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig.

Un broblem fyddai’n codi o’r newidiadau, meddai, yw y byddai gan ASau o Loegr yr hawl o hyd i bleidleisio ar Fil yr Alban a Bil Cymru er nad ydyn nhw’n ymwneud â’u gwlad nhw.

“Mewn geiriau eraill mae’n llanast llwyr, sydd wedi cael ei daflu at ei gilydd jyst cyn gwyliau’r haf ac yn amlwg wedi’i anelu at droi cenedlaetholdeb Saesnig tuag at greu mantais Dorïaidd [yn y Senedd],” meddai AS Pontypridd mewn erthygl i’r Spectator.

‘Diffyg parch’

Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae cynlluniau’r Ceidwadwyr yn dangos diffyg parch tuag at y gwledydd datganoledig.

“Nid yw’r cynlluniau hyn wir yn golygu ‘Pleidleisiau Seisnig ar Ddeddfau Seisnig’. Dyma achos o’r llywodraeth yn tincran gyda phrosesau Tŷ’r Cyffredin,” meddai Jonathan Edwards.

“Yr unig ateb go iawn fyddai i gyflwyno trefniant conffederal ar gyfer y Deyrnas Gyfunol er mwyn sicrhau partneriaeth gydradd rhwng y gwledydd.

“Byddai hyn yn golygu cydraddoldeb pwerau rhwng cenhedloedd y wladwriaeth Brydeinig, ynghyd a setliad ariannol teg a chyfartal.”