Bannau Brycheiniog
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw un o’r dynion fu farw ar ôl cael eu taro gan fellt ym Mannau Brycheiniog ddydd Sul.

Roedd Jeremy Prescott yn 51 oed ac yn dod o Telford yn Sir Amwythig

Nid yw enw’r dyn arall wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Bu farw’r ddau ddyn ar ôl cael eu taro gan fellt mewn dau  ddigwyddiad ar wahân – un ar fynydd Corn Du a’r llall ar Fynydd Cribyn – ym Mannau Brycheiniog.

Teyrnged

Roedd Jeremy Prescott wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad ar gyfer Gwobr Dug Caeredin ar Fannau Brycheiniog pan gafodd ei ladd.

Dywedodd llefarydd ar ran cynllun Gwobr Dug Caeredin: “Rydym mewn sioc ac wedi ein tristau o glywed am farwolaeth Jeremy Prescott ym Mannau Brycheiniog dros y penwythnos mewn amgylchiadau mor drasig.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu yn ystod y cyfnod trist hwn.”

Roedd Jeremy Prescott yn weithiwr ieuenctid rhan amser gyda Chyngor Telford & Wrekin. Bu ei gydweithwyr yn rhoi teyrnged iddo heddiw gan ei ddisgrifio fel “unigolyn ymroddedig” a oedd yn rhoi o’i amser ei hun i helpu pobl ifanc.

Gwella

Cafodd dau ddyn arall eu cludo i’r ysbyty ar ôl y storm tua 12 ddydd Sul. Mae un o’r dynion bellach wedi gadael Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful tra bod dyn arall yn cael triniaeth am losgiadau yn Ysbyty Treforys.

Mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond yn dangos arwyddion o wellhad, meddai Heddlu Dyfed Powys.