Marks & Spencer
Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi gostyngiad chwarterol mewn gwerthiant dillad ar ôl i dywydd oerach ym mis Mai olygu nad oedd pobl yn prynu o’r casgliad ar gyfer yr haf.

Dywedodd y siop ei fod wedi mynd trwy “chwarter heriol” wrth i werthiant nwyddau cyffredinol, gan gynnwys dillad, ostwng 0.4%.

Ond mae’r cwymp yn llawer llai na’r 1% oedd rhai yn ei ddisgwyl.

Cododd gwerthiant bwyd o 0.3% yn ystod y cyfnod, o’i gymharu â chynnydd o 1.7% flwyddyn yn ôl.

Lansiwyd 700 o eitemau bwyd newydd yn ystod y cyfnod, ac mae Marks & Spencer yn parhau i weld gwerthiant ei fwydydd yn perfformio’n dda.

Ym mis Mai, cyhoeddodd Marks & Spencer ei fod wedi llwyddo i wneud elw blynyddol am y tro cyntaf ers pedair blynedd.