George Osborne
Mae George Osborne wedi rhybuddio bod yn rhaid i’r BBC wneud “cyfraniad” i ddelio gyda dyledion y wlad yn sgil adroddiadau y gallai’r gorfforaeth orfod ysgwyddo’r bil o £650 miliwn am drwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.

Mae’r Canghellor – a fydd yn cyflwyno ei Gyllideb ddydd Mercher – wedi cadarnhau bod y Llywodraeth wedi’i hymrwymo i wneud toriadau lles gwerth £12 biliwn.

Wrth gael ei gyfweld ar The Andrew Marr Show ar BBC 1, dywedodd George Osborne y byddai’r cap ar fudd-daliadau yn Llundain yn £23,000 – ac yn is yng ngweddill y DU – wrth iddo awgrymu  y byddai’n ceisio gwneud arbedion o gredydau treth.

“Mae’n rhaid i ni gael system les sy’n deg i’r rhai sydd ei hangen ond hefyd yn deg i’r rhai sy’n talu amdani.”

Ond fe wnaeth yn glir fod ei olygon hefyd ar y BBC.

“Mae’r BBC yn sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus felly mae’n rhaid iddi wneud arbedion a chyfrannu tuag at yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gael trefn ar bethau. Felly rydym mewn trafodaethau gyda’r BBC.”

Fe awgrymodd bod gwefan y BBC yn un o’r adrannau lle y gallai’r gorfforaeth wneud arbedion sylweddol.

Mae’r Sunday Times yn adrodd y gallai’r BBC gael y cyfle i adennill rhan o’r refeniw y bydd yn ei golli drwy godi arian am ddefnyddio iPlayer a gwasanaethau eraill ar-lein.