Jeremy Corbyn
Mae arweinwyr undeb fwyaf gwledydd Prydain wedi pleidleisio o blaid cefnogi Jeremy Corbyn fel arweinydd newydd y Blaid Lafur.

Mae gweithgor Unite wedi penderfynu cefnogi Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth yn hytrach nag Andy Burnham a oedd yn ail ddewis.

Mae’r penderfyniad yn hwb sylweddol i Corbyn, sydd wedi cael ymateb da yn ystod hustyngau’r undebau llafur yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Fe fu’r pedwar ymgeisydd sy’n gobeithio olynu Ed Miliband fel arweinydd y blaid – Andy Burnham, Jeremy Corbyn, Yvette Cooper a Liz Kendall – yng Nghaerdydd heddiw i gyflwyno eu gweledigaeth am y dyfodol.