Mae cyfres o gyrchoedd awyr, sy’n cael eu harwain gan yr Unol Daleithiau ac yn targedu safleoedd eithafwyr IS yn Syria, wedi lladd o leiaf 10 o filwriaethwyr ac wedi anafu nifer o bobl eraill.

Cafodd yr ymosodiadau o’r awyr yn Raqqa yn nwyrain Syria eu cadarnhau gan y glymblaid, a grŵp IS ei hun.

Mewn datganiad yn gynharach heddiw, fe gadarnhaodd y glymblaid eu bod wedi cynnal 16 o gyrchoedd awyr yn Raqqa, gan ddinistrio safleoedd IS.

Yn ôl gwefan IS, cafodd 10 o bobl eu lladd a nifer eu hanafu.