Yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon ddweud wrth ASau y dylai Prydain ystyried ymestyn cyrchoedd o’r awyr ar safleoedd IS yn Syria.

Dywedodd Michael Fallon ddoe nad oedd yn gwneud synnwyr bod awyrennau o’r DU yn gallu targedu eithafwyr yn Irac ond nid ar safleoedd dros y ffin.

Fe awgrymodd y byddai unrhyw dystiolaeth bod yr ymosodiad ar dwristiaid yn Tiwnisia wythnos diwethaf wedi cael ei drefnu yn Syria yn dangos bod arweinyddiaeth IS yn y wlad yn fygythiad uniongyrchol i Brydain.

Nid oes disgwyl i ASau bleidleisio ar y mater yn y ddadl  ar ddiogelwch rhyngwladol Prydain.