Gosod blodau ger safle'r ymosodiad yn Sousse
Mae cyrff wyth o bobol gafodd eu saethu’n farw ar draeth yn Nhiwnisia wedi cael eu cludo yn ôl i wledydd Prydain.

Glaniodd awyren oedd yn cludo’r cyrff ar safle’r Llu Awyr yn Brize Norton yn Swydd Rydychen yn gynharach heddiw.

Roedd yn cludo cyrff Adrian Evans, Patrick Evans, Joel Richards, Carly Lovett, Stephen Mellor, John Stollery a Denis ac Elaine Thwaites.

Roedd yr wyth ymhlith 38 o bobol gafodd eu lladd gan Seifeddine Rezgui, 23, ar draeth yn Sousse ddydd Gwener.

Wrth i’r awyren lanio, cafodd teyrnged ei rhoi gan Suzanne Evans i Adrian a Patrick Evans a Joel Richards.

“Rydyn ni’n deulu bach ac arferol, ond ni fydd unrhyw beth yn arferol byth eto.

“Roedd fy mab Joel, fy nhad Pat a’m brawd Adrian yn greigiau ac rydym wedi torri’n calonnau ac ar chwâl, a fyddwn ni byth yn dod i delerau â’u colli nhw.”