Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Patrick McLoughlin wedi dweud bod adroddiad y Comisiwn Meysydd Awyr yn “haeddu parch ac ystyriaeth”, a bod rhaid i Lywodraeth Prydain weithredu.

Roedd adroddiad hirddisgwyliedig y Comisiwn i ymestyn meysydd awyr yn argymell y dylai llain lanio newydd fod yn Heathrow yn hytrach na Gatwick.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin, dywedodd McLoughlin y byddai Llywodraeth Prydain yn adrodd yn ôl ar y sefyllfa yn yr hydref er mwyn cynnig “cyfeiriad clir” ynghylch eu cynlluniau.

Dywedodd: “Dyma foment hanfodol ar gyfer dyfodol ein diwydiant awyr.

“Mae ein sector awyr wedi bod wrth wraidd ein llwyddiant economaidd ac ansawdd bywyd.

“Mae pawb sydd â diddordeb yn y cwestiwn pwysig hwn yn disgwyl i ni weithredu’n gadarn.

“Mae hwn yn adroddiad clir a rhesymegol, mae’n seiliedig ar dystiolaeth, mae’n haeddu parch ac ystyriaeth, rhaid i ni weithredu ac rwy’n cymeradwyo’r datganiad hwn i’r Tŷ.”

‘Safbwyntiau cryf’

Mae dadl fawr ar droed am gapasiti meysydd awyr yn dilyn argymhelliad yr adroddiad y dylid adeiladu llain lansio ychwanegol ym maes awyr Heathrow yn hytrach nag yn Gatwick.

Cafodd y  comisiwn ei sefydlu yn 2012 i ystyried sut y gallai gwledydd Prydain gadw eu statws fel hwb awyr rhyngwladol.

“Mae safbwyntiau cryf ar y mater hwn, dydy e ddim yn hawdd i’w ddatrys.

“Tasg y Llywodraeth yw cydbwyso buddiannau lleol yn erbyn y manteision tymor hir ehangach ar gyfer y DU. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r broses honno.”

Ychwanegodd fod y cynlluniau ar gyfer y diwydiant awyr yn cynnwys gwella’r cyswllt rheilffordd rhwng Llundain a Stansted yn ne-ddwyrain Lloegr, a llwybr uniongyrchol newydd i Heathrow.

Pryderon

Mae llefarydd trafnidiaeth y Blaid Lafur, Michael Dugher wedi dweud bod dyfodol y diwydiant awyr yn y DU mewn perygl.

“Dylid fod wedi gwneud penderfyniad ar ymestyn gwasanaethau awyr flynyddoedd yn ôl a methiant oedd hyn ar ran yr holl lywodraethau blaenorol.

“Ond dydy diffyg gweithredu’r tro hwn ddim yn opsiwn.”

Ychwanegodd y gallai’r DU golli £214 biliwn dros gyfnod o 60 blynedd pe bai rhagor o oedi cyn ehangu’r diwydiant.