Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cael ei dewis yn ddynes fwya’ pwerus y byd, gan banel y rhaglen radio Woman’s Hour.
Fe gurodd ffigurau dylanwadol enwog fel yr actores Angelina Jolie a’r bersonoliaeth deledu Caitlyn Jenner yn y Rhestr Pwer blynyddol.
“Hi yw dynes y funud” meddai Emma Barnett, cadeirydd y panel, wrth i’r canlyniad gael ei gyhoeddi heddiw ar y rhaglen Radio 4.
SNP
Yn yr etholiad cyffredinol fis Mai 2015, enillodd yr SNP 56 sedd allan o 59 o seddau posib yr Alban o dan arweiniad Nicola Sturgeon.
Fe lwyddodd i wneud yn well hyd yn oed na’i rhagflaenydd Alex Salmond a hi yw’r ddynes gynta’ i fod yn Brif Weinidog yr Alban.
Yn ôl y beirniaid, haeddai Nicola Sturgeon ei lle ar frig y rhestr oherwydd “perfformiad rhyfeddol ei phlaid yn yr etholiad Seneddol diwethaf”.
Enwau eraill ar y rhestr
Roedd y beirniaid yn chwilio am ferched sydd wedi “dylanwadu ar fywydau pobol”.
Anna Wintour, prif olygydd Vogue a ddaeth yn ail, gydag Angelina Jolie yn drydydd am ei dewrder wrth rannu’i straeon personol am ei hiechyd a’i llawdriniaethau diweddar.
Dyma’r rhestr gyflawn:
1. Nicola Sturgeon – arweinydd yr SNP
2. Anna Wintour – prif olygydd Vogue
3. Angelina Jolie – actores, cyfarwyddwraig a llysgennad dyngarol
4. Kath Viner – golygydd The Guardian
5. Camilla Cavendish – cyfarwyddwr Uned Bolisi Downing Street
6. Sia – cantores, cyfansoddwraig a chyfarwyddwraig
7. Caitlyn Jenner – dynes drawsrywiol uchel ei phroffil
8. Karen Blackett – prif weithredwr MediaCom
9. Zanny Minton Beddoes – prif olygydd The Economist
10. Sara Khan – cydsylfaenydd Inspire