Mae dyn 62 o Lan-bedr Gwynllŵg yng Ngwent wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gaethwasiaeth, caethiwo a gorfodi llafur.

Mae’r troseddau’n ymwneud â phobol sy’n agored i niwed, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa yn Ystrad Mynach.

Cafodd ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Imperial.

Dywedodd Heddlu Gwent fod yr unigolyn sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r achos hwn yn ddiogel.

Mewn datganiad, dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Griffiths: “Ers dwy flynedd, mae tîm Ymchwiliad Imperial wedi bod yn ymchwilio i droseddau difrifol iawn yn erbyn rhai o’r bobol sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

“Mae nifer o bobol wedi cael eu harestio a’u cyhuddo ac mae un wedi’i gael yn euog o ganlyniad i’r ymchwiliad hwn ac rydym yn parhau’n ymroddedig i ddiogelu dioddefwyr a dwyn troseddwyr gerbron eu gwell.”

Mae’r Ditectif Arolygydd Paul Griffiths wedi apelio ar unigolion oedd wedi ffonio’r heddlu’n ddienw i gysylltu â nhw unwaith eto.

Ffoniodd yr unigolyn yr heddlu ar Fai 27, ac fe awgrymodd fod ganddo wybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.