Mae cynghorwyr sir wedi gwrthod cynlluniau i ffracio am nwy siâl yn Sir Gaerhirfryn.

Roedd cwmni ynni Cuadrilla wedi gobeithio dechrau profion ffracio a thyllu ar safle yn Little Plumpton rhwng Preston a Blackpool.

Er bod swyddogion cynllunio wedi argymell rhoi caniatâd amodol i’r cynlluniau fe benderfynodd cynghorwyr bleidleisio o 10-4 yn erbyn y cais.

Roedd ’na ofnau ynglŷn â’r effaith ar y dirwedd, a’r sŵn.

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan aelodau’r cyhoedd a thrigolion sy’n byw ger y safle arfaethedig.

Mae’r Llywodraeth yn honni y bydd ffracio am nwy siâl yn creu swyddi a thwf, yn golygu gostyngiad mewn prisiau ynni ac yn lleihau dibyniaeth y wlad ar fewnforion o nwy.

Ond mae rhai sy’n gwrthwynebu’r dull dadleuol o dyllu am nwy siâl yn dweud y gall achosi daeargrynfeydd, llygru cyflenwadau dwr ac arwain at ddatblygiadau anaddas yng nghefn gwlad.

Roedd ymgyrchwyr amgylcheddol wedi bod yn protestio tu allan i Neuadd y Sir yn Preston yn galw ar gynghorwyr i wrthod y cynlluniau.

Maen nhw’n dweud bod y penderfyniad heddiw yn “fuddugoliaeth i ddemocratiaeth leol.”