Trenau Great Western
Mae cynlluniau gwerth £38 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd i ailwampio’r rheilffyrdd wedi cael eu gohirio “am eu bod yn rhy gostus ac yn cymryd gormod o amser”, yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Patrick McLoughlin.

Fe ddywedodd Patrick McLoughlin mewn datganiad yn y Senedd fod y gwaith trydaneiddio ar lein canolbarth Lloegr yn cael ei ohirio, ynghyd â’r lein rhwng Leeds a Manceinion.

Mae wedi rhoi’r bai ar Network Rail am y problemau, gan fynnu na fydd y cyfarwyddwyr yn derbyn bonws  eleni.

Mae hefyd wedi dweud y bydd Comisiynydd Trafnidiaeth presennol Llundain, Syr Peter Hendy yn cymryd yr awenau yn Network Rail pan fydd y cadeirydd presennol Richard Parry-Jones yn camu o’r swydd.

Great Western

Mae’r cynlluniau i drydaneiddio rheilffordd Great Western i Abertawe ymhlith y rhai sy’n wynebu oedi, yn ôl adroddiadau.

Mae llefarydd trafnidiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Eluned Parrott wedi dweud y byddai’n “hollol annerbyniol” i deithwyr yng Nghymru orfod aros yn hirach cyn i lein y Great Western gael ei drydaneiddio.

Dywedodd Eluned Parrott AC y bydd yn ysgrifennu at yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru i geisio cael sicrwydd ynglŷn ag amserlen ar gyfer trydaneiddio yng Nghymru.

‘Blaenoriaeth’

Wrth annerch ASau, dywedodd Patrick McLoughlin: “Mae agweddau pwysig o gynllun buddsoddi Network Rail yn rhy gostus ac yn cymryd gormod o amser. Mae trydaneiddio yn gymhleth. Mae hi wedi cymryd mwy o amser nag a ddisgwyliwyd i gael caniatâd cynllunio gan awdurdodau lleol.

“Ond nid yw hynny’n esgus ac fe ddylai Network Rail fod wedi rhagweld y problemau hyn. O ganlyniad rwy’n bwriadu gohirio’r cynllun.”

Ychwanegodd: “Mae trydaneiddio lein y Great Western yn brif flaenoriaeth ac rydw i am i Network Rail ganolbwyntio eu hymdrechion ar gael hynny’n iawn.”